- Hafan
- Sesiynau
- Ar y diwrnod
- Oriel
- Sylwadau gan gwsmeriaid
- Pam Drymio?
- Cysylltwch â ni


"dewis gorau ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a sesiynau meithrin tîm yng Ngogledd Cymru ac yng Ngogledd Orllewin Lloegr – Ewch â’ch tîm i’r lefel nesaf gyda’n sesiynau Cymraeg neu Saesneg."
Does dim angen sgiliau drymio o flaen llaw a bydd pob un sy’n cymryd rhan yn gwella yn ei amser ei hun.
Caiff y grŵp eu cyflwyno i’r djembes mewn cylch drymio a dysgu sut i’w canu. Byddan nhw’n dysgu amrywiaeth o batrymau rhythmig ac yn profi’r cyffro o chwarae’r patrymau a chreu perfformiadau syml.
Wedyn bydd y cylch yn rhannu i grwpiau llai gyda phob grŵp yn dewis arweinydd. Gyda’r arweinydd yn arwain, bydd y grŵp cyfan yn cyfrannu eu syniadau eu hunain er mwyn creu’r perfformiad.
Mae’r profiad hwn o gyd-chwarae yn rhoi cyfle i’r cyfranogwyr gyfathrebu â’i gilydd, bod yn gyfrifol am eu grŵp a meithrin sgiliau creadigol – pethau sy’n hollbwysig wrth feithrin tîm.
