

"dewis gorau ar gyfer digwyddiadau corfforaethol a sesiynau meithrin tîm yng Ngogledd Cymru ac yng Ngogledd Orllewin Lloegr – Ewch â’ch tîm i’r lefel nesaf gyda’n sesiynau Cymraeg neu Saesneg."
Mae drymio’n ffordd wych o feithrin ysbryd o gyd-dynnu. Does dim angen sgiliau drymio arnoch chi, ac yn wir, ac fe gewch eich synnu gan ba mor sydyn y gwelwch eich sgiliau drymio’n datblygu. Bydd y cylch drymio yn rhoi hwb a chefnogaeth i bawb. Bydd mwy o amrywiaeth yn y gwaith grŵp. Yma bydd yr arweinwyr naturiol yn blodeuo gydag eraill yn y grŵp yn cyflwyno eu syniadau creadigol i ychwanegu at y perfformiad. Drymio yw’r gweithgaredd perffaith i feithrin ysbryd o gydweithio.
Gyda mwy na deng mlynedd o brofiad yn cyflwyno sesiynau drymio rydyn ni’n gwybod sut i weithio gyda grwpiau mawr a bach a chael y gorau allan ohonyn nhw. Mae gan Feel The Beat sesiynau meithrin tîm, ymarferion torri’r garw a digwyddiadau corfforaethol eraill, oll am brisiau cystadleuol. Rydyn ni’n cynllunio sesiynau yn arbennig ar gyfer eich anghenion penodol chi. Mae’n sesiynau ar gyfer rhwng 10 a 60 o gyfranogwyr. Gyda’n gilydd bydd modd i ni lunio sesiwn fydd yn cryfhau’ch tîm.
Wrth gerdded i’r ystafell byddwch yn gweld y gwahanol ddrymiau ac offerynnau taro sydd gennym ni. Cewch eich gwahodd i’r cylch drymio ac ar ôl ychydig o ymarfer i gynhesu bydd y dysgu’n dechrau! Yn fuan byddwch chi’n gallu canu’r Djembes ac offerynnau Affricanaidd eraill yn ddigon hyderus. Byddwch yn dysgu plethu amrywiaeth o rythmau a bydd hyn yn rhoi i chi’r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i berfformio’n hyderus. Unwaith y byddwch chi wedi meistroli’r dechneg galw ac ateb bydd modd i’ch grŵp ddilyn arweinydd y cylch neu’r grŵp.
Rydyn ni’n cynnig sesiynau meithrin tîm, ymarferion torri’r garw a digwyddiadau corfforaethol eraill yng Ngogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr: Wrecsam, Caergybi, Y Rhyl, Ynys Môn, Bae Colwyn, Llandudno, Prestatyn, Bwcle, Cei Conna, Conwy, Bangor, Abergele, Aberystwyth, Y Fflint, Caernarfon, Manceinion, Lerpwl, Caer, Runcorn, Warrington, Widnes a llawer o lefydd eraill. Am fwy o wybodaeth a phrisiau ewch i sesiynau neu cysylltwch â ni .